Hide
--- TEST SYSTEM --- TEST SYSTEM --- TEST SYSTEM ---
Hide
Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru.
hide
Hide
(History of the Welsh Independent Churches)
By Thomas Rees & John Thomas; 4 volumes (published 1871+)
From the CD published by Archive CD Books
Montgomeryshire section (Vol 1) - Pages 360 - 373
Proof read by Maureen Saycell (Sept 2008)
Chapels below;
|
|
Pages 360 - 373
360
(Continued) SARDIS, LLANWDDYN
un John Davies a'i wraig o Lanuwchllyn yma i fyw ; ac am eu bod yn aelodau ffyddlon o'r eglwys yno, nid hir y buont cyn gwahodd eu gweinidog, Dr. G. Lewis, i bregethu iddynt yn eu preswylfa newydd ; a pharhawyd i bregethu mor gyson ag y gellid. Heblaw Dr. Lewis, sonir am John Jones, Afonfechan, yn mysg y pregethwyr cyntaf a ddaeth yma. Claddwyd John Davies, Cynonisaf, ym mhen rhai blynyddoedd wedi eu symudiad yma ; ond parhaodd ei weddw i noddi yr achos fel o'r blaen. Priododd merch iddi a John Jones, Gwynyndy, ger Llanfaircaereinion, a daeth Mr. Jones i fyw i Cynon dros yspaid ; ac adeiladwyd ty i'r weddw ar y buarth ; a phregethid o hyny allan yn y ddau dy yn ol cyfleustra. Nid oedd eglwys y pryd hwn wedi ei ffurfio yn Cynonisaf, ond elent i Lwydiarth i gymuno, ac yno y derbyniwyd Mr John Jones yn aelod, gan Mr James Griffiths, Machynlleth ; ond ffurfiwyd yma eglwys cyn y flwyddyn 1809; y flwyddyn yr aeth Mr Jones yn ei ol i'r Gwynyndy, canys dywedir yn hanes ei fywyd, ei fod yn ddiacon yn yr eglwys yn Cynonisaf, pan y symudodd i'r Gwynyndy.* Nid hir y bu Mr. Jones heb symud yn ol i Gwynyndy, lle y bu o gefn mawr i'r achos, fel y crybwyllasom yn hanes Llanfair ; ond parhaodd Mrs Davies i dderbyn y pregethu i'w thy, hyd nes y symudodd i Efailycwm, ger Llanfyllin, ac yr unodd a'r eglwys yno, lle y bu yn ffyddlon hyd ei diwedd. Ar symudiad Mr Jones i'r Gwynyndy, daeth un Thomas Gittins, o Brynadda, Cwmcowni, i fyw i Cynon. Yr oedd ar y pryd yn aelod defosiynol yn yr Eglwys Sefydledig, ond wrth wrando ar yr Annibynwyr, yn nhy Mrs Davies, ennillwyd ef i'w hoffi, a bwriodd ei goelbren yn eu plith ; a phan yr ymadawodd Mrs. Davies a'r lle, agorodd ef ddrws ei dy i'r efengyl, ac yno y cafodd yr achos gartref, hyd nes y codwyd capel Sardis, yn y flwyddyn 1821 ; ac agorwyd ef Ebrill 10fed, a'r 11eg, 1822. Ar yr achlysur pregethwyd y noson gyntaf gan Meistri J. Davies, Llanfair, a W. Hughes, Dinas. Dranoeth am 10, gan Meistri E. Davies, Cutiau, a J. Roberts, Llanbrynmair. Am 2, gan Meistri J. Jones, Main, a D. Morgan, Machynlleth. Am 6, gan Meistri H. Lloyd, Towyn, J. Ridge, Penygroes. Mr Morris Hughes, oedd y gweinidog i'r eglwys yn Cynon, mewn cysylltiad a'r Capel Bach, Penybontfawr, am flynyddau cyn codi Sardis; ac yn mysg y rhai a fuont yn golofnau achos yn ei flynyddoedd cyntaf, heblaw John Davies a'i wraig, yr ydym yn cael enwau Evan Davies, Lletty ; Robert Rees, Caeaubychain ; Edward Thomas, Tymawr ; Thomas Gittins, Cynonisaf; Robert Evans, Abermarchnad ; John Parry, Tynewydd; a William Davies, Rhiwlas. Pregethodd Mr M. Hughes lawer yn Tanyfoel, yn ngwaelod Cwmcowni, a chynorthwyid ef gan y myfyrwyr o athrofa Llanfyllin, yn yr adeg yr oedd yr athrofa yno; ac yn. 1825, codwyd yno gapel bychan a alwyd Saron. Ni bu yma eglwys Annibynol erioed, ond ystyrid y lle yn gangen o Sardis. Llafuriodd Mr Hughes yma yn gymeradwy iawn hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Medi laf, 1846.
Bu yr eglwys ar ol marwolaeth Mr Hughes, am rai blynyddoedd heb sefydlu ar weinidog, hyd nes y rhoddwyd galwad i Mr Joseph Jones, myfyriwr yn athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mehefin 23ain a'r 24ain, 1853. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr D. Price, Dinbych ; holwyd y gweinidog gan Mr W. Roberts, Penybont; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Williams, Aberhosan; pregethodd Mr M. Jones, Bala, i'r
* Dysgedydd, 1842. Tud dal. 261.
361
gweinidog ; a Mr D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Hughes, Foel; R. D. Thomas, Penarth; ac H. Ellis, Corwen. Bu Mr Jones yma yn barchus, hyd y flwyddyn 1857, pan y symudodd i Bristol. Wedi ymadawiad Mr Jones, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Benjamin Evans, o Peniel, Sir Gaerfyrddin, ond a fuasai am dymor yn athrofa y Bala ; ac urddwyd ef Medi 14eg a'r 15fed, 1858. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Hughes, Foel; holwyd y gofyniadau gan Mr R. Thomas, Llanuwchllyn; pregethodd Mr W. Roberts, Penybont, i'r gweinidog ; a Mr D. Evans Penarth, i'r eglwys; ac y mae Mr Evans yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad, a'r achos mewn agwedd siriol iawn.
Nid. ydym yn cael am neb a ddechreuodd bregethu yn yr eglwys hon, ond Mr Evan Jones (Ieuan Gwynedd); yr hwn a ddaeth i'r ardal hon gadw ysgol yn 1837, ac a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y tymhor hwnw.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
MORRIS HUGHES. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1780, mewn lle a elwir Penyfigin, yn nghymydogaeth Braichywaun. Yr ydym er chwilio llawer. wedi methu cael sicrwydd pa le y derbyniwyd ef yn aelod; ond y mae Mr Edward Davies, Trawsfynydd, yn tueddu i feddwl mai yn Llanfyllin, cyn dechreu yr achos yn Llwydiarth. Melinydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am dymor yn dal melin yn, neu gerllaw, Llanfaircaereinion. Nid oedd yn Llanfair yr un capel y pryd hwnw, a'r tebygolrwydd yw, mai yn ei dy ardrethol ei hun yno y dechreuodd bregethu. Symudodd cyn hir i Lanwddyn ; a byddai yn pregethu llawer ar y Sabbothau, yn Tanyfoel am 10, Cynon 2, Llwydiarth 6; ac unwaith yn y mis deuai i'r Capel Bach a Llanrhaiadr i bregethu. Yn y flwyddyn 1809, penderfynodd yr eglwysi yn y Capel Bach, Penybont, a'r Cynon, Lanwyddyn ; roddi galwad iddo i fod yn weinidog ; a bu Mr Davies, Trawsfynydd, pan yn ddyn ieuangc, mewn cyfarfod gweinidogion yn Nrwsynant, (Sammah, yn awr), yn ceisio ganddynt ddyfod yno i'w ordeinio, yr hyn a wnaed yn y Capel Bach, cyn diwedd y flwyddyn hono. Bu yn ffyddlon iawn i ddyfod i'r Capel Bach a Llanrhaiadr am flynyddau lawer, a hyny am ychydig iawn o gydnabyddiaeth. Rhoddodd ofal Penybont i fyny tua'r flwyddyn 1829 ; ac o hyny allan, cyfyngodd ei lafur i Lanwddyn a Braichywaun. Bu yn briod ddwywaith, a magodd deulu lluosog o blant ; a digon isel a helbulus ei amgylchiadau bydol a fu drwy ei oes. Yr oedd yn ddyn mawr, tal, teneu, esgyrniog, o dueddfryd arafaidd, yn hytrach yn bruddaidd. Ystyrid ef yn ddyn deallgar a gwybodus, ac yr oedd yn bregethwr tra sylweddol; and heb y tan a'r gwres sydd yn ofynol i wneyd pregethwr poblogaidd. Llafuriodd yn ddiwyd a ffyddlon am oes hir, am gydnabyddiaeth fechan, dan amgylchiadau digon anffafriol, ond nid aeth ei lafur yn ofer. Yr oedd yn frawd i'r diweddar Mr John Hughes, Pontrobert, yr hwn oblegid iddo dreulio ei oes i deithio y wlad fel pregethwr Methodistaidd, sydd a'i enw yn fwy adnabyddus. Nid oedd dim tebygolrwydd ynddynt o ran corph na meddwl, ond yr oeddynt ill dau, pob un yn ei ffordd a'i ddawn ei hun, yn wyr rhagorol. Bu. Mr M. Hughes farw Medi 1af, 1846, yn 66 oed, wedi dau fis o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar. Ar achlysur ei gladdedigaeth, gweddiodd Mr R. Thomas, Croesoswallt; areithiodd Mr D. Davies, Llanerfyl ; a phregethodd Mr R. D. Thomas, Penarth ; a'r
362
Sabboth canlynol, pregethwyd ei bregeth angladdol gan Mr J. J ones, Penllys. Claddwyd ef yn mynwent Llanwddyn, lle y mae beddfaen hardd, yr hwn a osodwyd arno yn 1865, gan eglwys Sardis.
PENLLYS
( Llanfihangel yng Ngwynfa parish)
Mewn trefn i gael golwg glir ar ddechreuad yr achos yn Penllys, Sardis, Dolanog, a Braichywaun, y mae yn angenrheidiol i ni gyfeirio at achos a fu am flynyddoedd, yn nechreu y ganrif bresenol, yn flodeuog yn Llwydiarth, amaethdy cyfrifol yr olwg arno, rhwng Llanfyllin a Cann Office, a thua haner y ffordd o'r naill i'r llail. Tua'r flwyddyn 1806, symudodd Mr Thomas Moreton, Pentreheilyn, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Phenygroes, i Lwydiarth i fyw. Yr oedd efe yn hen aelod o'r Sarnau, ac yn un o aelodau cyntaf yr eglwys sydd yn awr yn Mhenygroes ; a phan y symudodd i Lwydiarth, meddyliodd yn ddioed am godi achos i'r Arglwydd yn ei dy. Pregethwyd llawer yno gan hen weinidogion y dyddiau hyny, yn enwedig gan Mr Roberts, Llanbrynmair, a Mr Hughes, o'r Dinas. Codwyd capel bychan, neu trowyd ty oedd yno eisioes, at wasanaeth yr achos ; a chadwyd moddion cyson yno, a phregethu mor rheolaidd ag y gellid. Corpholwyd yno eglwys, ac yn mysg yr aelodau, yr oedd Mr Moreton, a'i wraig, a'i ferch Frances, (Mrs Owens, Penllys, wedi hyny) ; Robert Davies, Felinwnfa, a'i wraig ; Thomas Williams, (Eos Gwnfa), a'i wraig ; John Griffiths, Penyfigin, a'i wraig; John Breese, a'i wraig ; Robert Ellis, a'i wraig; Jane Hughes, mam Meistri Morris Hughes, Sardis, a John Hughes, Pontrobert ; Mary Williams, hen wraig a ddaeth i'r ardal o Landderfel ; ac eraill o bosibl, na chawsom eu henwau.* Nid ydym yn sicr a oedd yr holl rai yna yn Llwydiarth ar gychwyniad yr achos, ond y mae yn sicr iddynt ymuno ag ef yn fuan wedi hyny ; ac ychwanegwyd eraill atynt, fel yr oedd gwedd addawus ar yr achos. Bu farw Mr Moreton yn mhen rhai blynyddoedd, ond cyn marw rhoddodd orchymyn difrifol i'w blant i fod yn ymgeleddgar o achos yr Arglwydd ; a pheidio gadael i bregethwyr yr efengyl i fyned heibio heb ddangos caredigrwydd iddynt. Bu cartref i'r achos yn Llwydiarth dros yspaid bywyd Mrs Moreton, y weddw; ond wedi ei marwolaeth hi, priododd ei mab, Mr John Moreton, a Miss Lloyd, o'r Rhiwlas, yr hon oedd eglwyswraig ragfarnllyd; ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam cyn gadael y Rhiwlas, i beidio darostwng ei hun trwy ymgysylltu a'r Ymneillduwyr, na derbyn y pregethwyr i'w thy ; ac ar ei mynediad hi i Lwydiarth trowyd achos yr Arglwydd allan. Dywedir fod Mr John Moreton yn teimlo yn ofidus oblegid y peth; canys yr oedd efe yn ddyn hynaws, a buasai yn dda ganddo wneyd dymuniad diweddaf ei dad, ond yr oedd dan lywodraeth ei wraig, yr hon fel yr yr ymddengys, oedd ddynes o ewyllys gref a phenderfynol, ac wedi ei rhagddysgu gan ei mam pa fodd i wneyd ar ol myned i Lwydiarth. Gwasgarwyd yr ychydig enwau oedd yma, rhai i Cynonisaf, a rhai i Dolanog; ac yr oedd Miss Frances Moreton, merch Llwydiarth, yn awr yn briod a Mr Thomas Owens, Penllys, ac ill dau yn aelodau yn Llwydiarth. Yr oedd Mr Owens wedi ei dderbyn yn Llwydiarth tua'r flwyddyn 1814, gan Mr Daniel Davies, Sarnau. Wrth weled pregethu yn cael ei droi o dy ei thad,
* Llythyr Mr. John Williams, mab Eos Gwnfa.
363
penderfynodd Mrs Owens, a'i phriod, y mynent agor eu drws i roddi cartref i'r achos. Mae yn deilwng o'n sylw fod achos wedi bod gan y Methodist- iaid yn Mhenllys, yn nyddiau tad Mr Thomas Owens. Pregethent mewn amryw dai, megis yr Halfen, Dolwarfawr, Llaethbwll, Moelyfronllwyd; ond Penllys fu yn brif gartref i'r achos dros amryw flynyddoedd, nes y symudwyd ef i Bontrobert, ac y codwyd capel yno yn 1800.* Rhyw dramgwydd rhwng tad Mr T. Owens a'r Methodistiaid yn nghylch ei ail briodas, a barodd symudiad yr achos i Bontrobert ; ond yr oedd Mr T. Owens, y mab, wedi ei ddysgu o'i febyd i barchu crefydd, mai yn mhen mwy na blwyddyn ar ol priodi yr ymunodd a'r eglwys yn Llwydiarth ; ac yr oedd mor barod a'i wraig i groesawu yr arch i'w dy. Tua'r flwyddyn 1817, y dechreuwyd yr achos yn Mhenllys. Bu y myfyrwyr oedd yn yr athrofa yn Llanfyllin, yn pregethu llawer yma, ond ar ol ymadawiad yr athrofa, ac i Mr W. Morris gael ei sefydlu yn Llanfyllin, arno ef yr oedd gofal y lle ; ac yn y flwyddyn 1822, rhoddodd Mr Owens, Penllys, ddarn o dir yn rhad i godi capel, a mynwent yn ei ymyl.
Bu Mr Morris yn dyfod yma yn rheolaidd hyd ei ymadawiad a Llanfyllin yn 1839 ; ac yr oedd yn nodedig o boblogaidd trwy yr holl wlad. Coffeir yn gynes am ei ymweliodau rheolaidd pan y pregethai yn Pentrepoeth am 10, ac yn Penllys am 2, ac i Llanfyllin erbyn yr hwyr. Gwanychodd yr achos gryn lawer wedi ymadawiad Mr Morris, ac yn neillduol trwy i Mr T. Owens, yr hwn oedd yn brif golofn yr achos, gymeryd fferm yn agos i Trallwm, ac nad oedd wedi llwyr adael Penllys, etto yn ei le newydd y treuliai y rhan fwyaf o'i amser. Yn yr adeg yma sicrhaodd Mr Owens wasanaeth y gwyr ieuaingc oedd dan addysg gan Mr Jones, yn Marton, i ddyfod i Benllys ddwywaith yn y mis, yr hyn a brofodd yn adfywiad mawr i'r achos. Yn y flwyddyn 1840, rhoddwyd galwad i Mr John Jones, Parc, gerllaw Penybontfawr ; ac urddwyd ef Ionawr 5ed a'r 6ed, 1841. Pregethodd Mr J. Williams, Aberhosan, ar natur eglwys ; holwyd y gweinidog gan Mr John Roberts, Llanbrynmair ; gweddiodd Mr J. Davies, Llanfair, am fendith ar yr undeb ; pregethodd Mr D. Price, Penybont, i'r gweinidog, a M. D. Morgan, Llanfyllin, i'r eglwys ; pregethwyd hefyd gan Mr R. Thomas, Dinas; W. Roberts, Pennal, ac H. James, Brithdir. Bu Mr Jones yma yn llafurio hyd ddiwedd 1848, pan y symudodd i Carno. Teimlodd yr achos yma oddiwrth ymadawiad Mr T. Owens, Penllys, yr hwn a symudodd i'r Neuadd, gerllaw Llanfair, yn 1841, ac ni ddychwelodd yma mwy i fyw ; ond dychwelwyd ei gorph i orphwys yn y fynwent yma, Ionawr, 1850. Wedi ymadawiad Mr J. Jones, ni bu yma yr un gweinidog sefydlog am flynyddau. Daeth Mr Robert Fairclough, i'r ardal, a bu yma mewn rhyw fath o gysylltiad a'r lle dros rai blynyddoedd ; ond gwywodd yr achos yn fawr trwy ei annoethineb ef, a drwgfuchedd rhai o'r aelodau. Nid oes yma yr un gweinidog ar hyn o bryd, ond gwasanaethir yr achos gan weinidogion y Sir ; ac y mae myfyrwyr y Bala wedi bod bob amser yn ffyddlon i'r eglwys yn y lle. Mae yn resyn gweled achos fu unwaith mor llewyrchus, wedi disgyn mor isel; ond nid yw yn ddiobaith pe ceid i'r ardal ddyn ieuangc, a chanddo "galon i weithio."
Codwyd yma un pregethwr ; sef, Hugh Hughes, yr hwn a ymfudodd i America.
* Methodistiaeth Cymru. Cyf. ii. Tu dal. 415 a 416.
Translation by Maureen Saycell (Dec 2009)
In order to get a clear picture of the beginning of the causes in Penllys, Sardis, Dolanog and Braichywaun, it is neccessary to refer to a cause that was successful at the start of the current century in Llwydiarth, a solid looking farmhouse about half way between Llanfyllin and Cann office. About 1806 Mr Thomas Moreton, Pentreheilyn, previously mentioned with Penygroes, moved to Llwydiarth to live. He was a long standing member of Sarnau and one of the first at Penygroes, and when he moved to Llwydiarth he immediately thought of raising a cause to the Lord in his home. Many sermons were given there particularly by Mr Roberts, Llanbrynmair and Mr Hughes, Dinas. A small chapel was built or an existing house was adapted for the cause, and regular services were held there as a far possible. A church was formed there and among the members were Mr Moreton, his wife and daughter Frances (later Mrs Owens, Penllys), Robert Davies, Felinwnfa, and his wife ; Thomas Williams, (Eos Gwnfa), and his wife ; John Griffiths, Penyfigin, and his wife; John Breese, and his wife ; Robert Ellis, and his wife; Jane Hughes, mother of Messrs Morris Hughes, Sardis, and John Hughes, Pontrobert ; Mary Williams, an old lady who moved here from Llandderfel ; and possibly others not known to us.* We are not certain that they were all at Llwydiarth at the beginning, but soon joined and many more were added to make a promising cause. In a few years Mr Moreton died leaving instruction to his children to care for the Lord's cause, and never to let a passing minister go without a welcome. There remained a home for the cause while the widowed Mrs Moreton was alive, but after her death her son John Moreton married Miss Lloyd, Rhiwlas, from a strong established church family. She had been instructed by her mother never to mix with nonconformists, and definately never allow a minister over the threshold, so the cause lost its home at Llwydiarth. It is said that Mr John Moreton was worried that he was not able to carry out his father's last wishes, but he was ruled by a strong willed and determined wife, who had been well tutored by her mother how to manage Llwydiarth. The few names here were scattered, some to Cynonisaf and others to Dolanog, by now Miss Frances Moreton had married Mr Thomas Owens of Penllys, they were both members of Llwydiarth. Mr Owens had been confirmed to Llwydiarth about 1814 by Mr Daniel Davies, Sarnau. Seeing preaching being turned away from her father's home Mr and Mrs Owens decided to open the doors of their home to the cause. We should note that there had been a Methodist cause at Penllys in the time of Mr Thomas Owens father. They preached in many houses like Halfen, Dolwarfawr, Llaethbwll, Moelyfronllwyd; but it was Penllys that was the main venue for many years until they moved to Pontrobert and built a chapel there in 1800*. It was some disagreement over the second marriage of Mr T Owens father that seems to have instigated the move to Pontrobert, but the son had been taught to respect religion from a young age and had become a member of Llwydiarth over a year after he got married, and was as ready as his wife to welcome the ark to their home. It was about 1817 that a cause was started at Penllys. Students from the College at Llanfyllin preached here often but after the College moved, Mr W Morris was appointed at Llanfyllin and the care mostly fell to him. In 1822 Mr Owens Penllys donated a piece of land to build a chapel and provide a burial ground.
Mr Morris came here regularly until his departure from Llanfyllin in 1839, he was very popular all around. There are warm memories of his regular visits to preach at Pentrepoeth at 10, Penllys at 2 and Llanfyllin in the evening. The cause weakened considerably after his departure and further when Mr Owens took a farm near Welshpool, and though he did not leave Penllys completely most of his time was spent in the new place. It was at this time that Mr Owens ensured that the young men studying with Mr Jones, at Marton, to come to Penllys twice a month, which provided a great recovery in the cause.. In 1840 a call was sent to Mr John Jones, Penybontfawr, and he was ordained January 5th and 6th, 1841. A sermon on the nature of a church was given by Mr J. Williams, Aberhosan, the minister was questioned by Mr John Roberts, Llanbrynmair, Mr J. Davies, Llanfair, prayed for a blessing on the union. Mr D. Price, Penybont, preached to the minister and Mr M. D. Morgan, Llanfyllin, to the church. Sermons were also given by Mr R. Thomas, Dinas; W. Roberts, Pennal, and H. James, Brithdir. Mr Jones worked here until the end of 1848, when he moved to Carno. The cause here also felt the loss of Mr T. Owens, Penllys, who moved to Neuadd, near Llanfair, in 1841, he did not return here to live but his body was buried here in January, 1850. There was not a permanent minister here for some years after Mr J Jones left. Mr Robert Fairclough was associated with the area for some years, but his lack of wisdom combined with the ill advised action of some members, weakened the cause considerably. There is no minister at present, the cause is covered by the other ministers in the County, as well as the students from Bala. It is sad to see what was a strong cause brought so low, but not so hopeless that a hard working suitable young man with a will could not save it.
Only one was raised here to preach - HUGH HUGHES who emigrated to America.
*Letter of Mr. John Williams, son of Eos Gwnfa.
* Methodistiaeth Cymru. Vol. ii. pges 415 and 416.
364
BRAICHYWAUN
(Llanfihangel yn Ngwnfa parish)
Salem yw enw y capel, or mai anaml y gelwir of ar yr enw hwnw. Mae yn mhlwyf Llanfihangel yn Ngwnfa. Mae yr eglwys hon yn dilyn ei tharddiad i'r eglwys yn Llwydiarth; er mai aelodau o Lanfyllin, Sardis, a Phenllys oedd yn ymuno ynddi ar ei chorpholiad. Pregethwyd llawer yn yr ardal hon yn Efailycwm, Tynewydd, Llawrycwm, Penyfigin, a Phentrepoeth, gan weinidogion Llanfyllin, ac eraill ; ac yn Felinwnfa, a Rhiwlas, gan Mr Morris Hughes, Sardis, ac eraill. Tua'r flwyddyn 1832, barnwyd mai gwell fuasai i'r achos yn y gymydogaeth yma fod dan ofal un gweinidog ; a chael achos Annibynol yn y lle, gan y teimlid fod Sardis a Phenllys yn rhy bell. Yr oedd rhai dros i'r achos fod dan ofal Mr Morris, Llanfyllin, mewn cysylltiad a Penllys ; ac eraill am iddo fod dan ofal Mr Morris Hughes, mewn cysylltiad a Sardis. Cyfarfu Mr Morris, a Hugh Hughes, yr hwn oedd yn aelod ac yn bregethwr yn Mhenllys, a Mr M. Hughes, a Thomas Williams, (Eos Gwnfa), yr hwn oedd yn aelod yn Sardis, yn nhy John Breese, er cydystyried y mater ; ac wedi siarad llawer, a dadleu yn gynes, ond yn frawdol, penderfynwyd fod i Mr Morris Hughes gymeryd gofal yr achos. Yr oedd ymlyniad cyfeillion Penllys oedd yn yr ardal, yn gryf wrth Mr Morris, ac efe oedd y pregethwr mwyaf poblogaidd; and yr oedd eangder maes ei lafur yn ei gwneyd yn anmhosibl iddo of ofalu am y lle.Yr oedd Mr Morris Hughes, o'r ochr arall, wedi rhoddi Penybontfawr i fyny rai blynyddau cyn hyny, ac nid oedd ganddo ond Sardis dan ei ofal; ac yr oedd ei fod wedi ei eni a'i fagu yn yr ardal yn gwneyd fod llawer o'i gyfeillion, ac yn enwedig Thomas Williams, y prydydd, fel ei gelwid, yn selog drosto. Ni bu ond y teimladau goreu rhwng Mr Morris, Llanfyllin, a Mr Hughes, Sardis ; ond oblegid eu hymlyniad wrth Mr Morris, daliodd rhai i fyned i Benllys i gymundeb, hyd nes yr ymadawodd a Llanfyllin. Corpholwyd eglwys yma yr amser hwn, yn Tynant - ty Edward Watkin, heb fod yn nepell o'r fan y mae capel Braichywaun. Bu yr achos yma yn llewyrchus am tua thair blynedd, or nad oedd y lle ond distadl a diaddurn. Yn y ty hwn y derbyniwyd Mr R. Hughes, yn awr o Cendl, yn aelod, pan nad oedd ond wyth oed. 0herwydd rhyw amgylchiadau, bu rhaid gadael ty Edward Watkin ; ond agorwyd dau ddrws i'r achos ar unwaith ; sef Rhydllechau, a thy John Breese ; a byddai pregethu yn ol cyfleustra yn y ddau le, ond fynychaf yn nhy John Breese. " Bu John Breese yn wir Obed Edom i arch Duw yn Braichywaun. Ni bu par yn y gymydogaeth hon o gymeriad gwell, nac yn fwy parchus a chariadus yn nghyfrif pawb a'u hadwaenent, na John Breese ac Ann ei wraig. Er nad oedd of ond saermaen, bychan, cyffredin, ac yn isel eu hamgylchiadau, a buont ill dau yn bur fethiedig am flynyddoedd olaf eu hoes ; etto, llawer pryd o fwyd a roisant yn llawen i bregethwyr, a'u ty a roisant yn babell i'r Arglwydd." Crybwyllasom yn hanes Ieuan Gwynedd, yn nglyn a Saron, Tredegar, mai yn yr ardal hon y dechreuodd bregethu, mai aelod yn Sardis ydoedd tax_ y pryd ; a char i ni gaol rhai crybwyllion ychwanegol oddiwrth oedd yn cyd-ddechreu pregethu fig ef, rhoddwn hwy i mewn yma. Yr oedd Thomas Williams, (Eos Gwnfa), wedi cael y fath foddlonrwydd yn Ieuan Gwynedd wrth ei glywed yn areithio ar Ddirwest, fel y trefnodd a'i
365
weinidog, Mr Morris Hughes, i'w godi i bregethu, ac yr oedd Joseph Williams, mab Thomas Williams, i ddechreu yr un diwrnod. Yr oedd Mr M. Hughes wedi crybwyll wrth rai o gyfeillion Sardis, fod son am godi Evan Jones yn bregethwr, ond nid oeddynt yn rhoddi iddo fawr gefnogaeth. Galwasant ef yn of ar ddiwedd yr ysgol un boreu Sabboth, a gofynasant iddo ai nid gwell fuasai iddo aros dipyn yn hwy cyn dechreu ; ond nid atebodd Ieuan iddynt air, ond torodd i wylo, ac wrth weled hyny, dywedodd y brodyr wrtho am fyned yn ei flaen, na safai yr un ohonynt hwy ar ei ffordd. Y boreu Sabboth hwn, yr oedd Mr Morris Hughes yn pregethu yn Felinwnfa ; a phregethodd Joseph Williams ychydig o'i flaen. Erbyn dau o'r gloch, aeth Ieuan Gwynedd i Rhydllechau, lle yr oedd Mr Hughes i bregethu ; a phregethodd ychydig o'i flaen; ac am chwech, yn nhy John Breese, pregethodd Joseph Williams, ac Ieuan Gwynedd ; a dyna y tro cyntaf erioed i Ieuan Gwynedd bregethu. Bu pregethu yn rheolaidd, a holl ordinhadau crefydd yn cael eu gweinyddu yn gyson, yn nhy John Breese, hyd nes y codwyd capel; a thrwy drafferth fawr y cafwyd lle i adeiladu capel arno. Cafwyd addewid unwaith am dir gan oruchwyliwr Syr Watkin, yn ymyl. Felinwnfa, ond oblegid gwrthwynebiad Mr Hamer, offeiriad Llanfihangel, ataliwyd y gwaith, er fod y sylfaen. wedi ei thori. Yr oedd yr offeiriad wedi gwneyd rhyw ffafr a Syr Watkin, ac fel ad-daliad gofynai na byddai iddo roddi tir at godi capel o fewn dwy filldir i'r Llan; ac er marw Mr Hamer, yr oedd ei olynydd, Mr Pugh, yn sefyll dros gyflawniad yr un amod. Ond tua'r flwyddyn 1842, prynodd Mr William Williams, un o aelodau Penllys, dy yn mhentref Llanfihangel, ac yr oedd yn foddlawn i'w werthu i godi capel arno. Pan ddeallodd yr offeiriad hyny, cydsyniodd, o rhoddodd heibio ei wrthwynebiad rhag i'r capel gael ei godi wrth ddrws y Llan, a chafwyd darn o dir wrth dalcen ty John Breese. Dangoswyd ffyddlondeb mawr gan yr ardalwyr yn nghodiad y capel, ac yn enwedig bu Thomas Thomas, Cefnllwyni, a Thomas Jones, Blaenycwm, yn flaenllaw gyda'r gwaith.
Bu y lle dan ofal Mr Hughes, Sardis, hyd ei farwolaeth. Wedi hyny bu dan ofal Mr J. Jones, mewn cysylltiad a Penllys, hyd nes y symudodd i Carno. Ar sefydliad Mr Joseph Jones, yn Sardis, cymerodd hefyd ofal Braichywaun, ac y mae y yn parhau dan ofal Mr Evans, ei olynydd yn Sardis. Heblaw y personau a enwyd yn flaenorol, bu yma lawer o ffyddloniaid yn nglyn a'r achos. Mae Thomas Williams, (Eos Gwufa,) yn deilwng o gofnodiad parchus yn nglyn a hanes crefydd yn y wlad yma. Yr oedd yn ddyn gwybodus a deallgar, a llafuriodd, yn arbenig gyda'r Ysgol Sabbothol, o'i chychwyniad cyntaf yn yr ardaloedd yma. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llwydiarth, ac wedi i'r drws yno gael ei gau yn erbyn yr achos, ymaelododd yn Sardis, gyda'i gyfaill Mr Morris Hughes, yr hwn oedd wedi ei gydfagu ag ef; a bu o gynorthwy mawr i'r achos yn ei fynych symudiadau, o fan i fan yn y gymydogaeth hon. Yr oedd yn fardd gwych, a chyfansoddodd lyfr a elwir Telyn Dafydd. Yr oedd yn nodedig o dyner tuag at fechgyn ieuaingc, a gwnai bob peth a allai er eu cefnogi ; ac y mae ei enw yn barchus gan lawer ohonynt hyd y dydd hwn.
Codwyd i bregethu yn yr eglwys yma, o'r rhai oedd yn aelodau ynddi, y personau canlynol :-
- John Williams. Mab Thomas Williams. Trodd of at y Bedyddwyr.
366
- Joseph Williams. Mab arall i Thomas Williams ; y mae yn awr yn Llansilin, ac yn bregethwr cynorthwyol yn yr eglwys yno.
- Robert Hughes. Bu yn Athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn y Trallwm, ac y mae yn awr yn Cendl. Y mae ei enw yn hysbys i'r holl eglwysi.
Bu Evan Thomas, am yr hwn y crybwyllasom yn nglyn a Machynlleth, yn byw yma dros dymhor hir, ac yn pregethu yn yr holl wlad oddiamgylch. Mae yn Braichywaun yr achos mwyaf bywiog, siriol, a gobeithiol, ag sydd o fewn plwyf Llanflhangel-yn-ngwnfa.*
Translation by Maureen Saycell (Dec 2009)
The name of the chapel is Salem, but it is seldom referred to as such. It is in Llanfihangel yn Ngwnfa. This church originates from Llwydiarth although the original membership came from Llanfyllin, Sardis and Penllys. There was a lot of preaching in the area at Efailycwm, Tynewydd, Llawrycwm, Penyfigin, and Phentrepoeth, by the ministers of Llanfyllin, and others ; and in Felinwnfa, and Rhiwlas, by Mr Morris Hughes, Sardis, and others. Around 1832, it was decided that it would be better for the whole area to be under one ministry and to have an Independent cause there, as it was felt that Sardis and Penllys were too far. Some wanted the cause under the care of Mr Morris, Llanfyllin along with Penllys, and others in favour of Mr Morris Hughes with Sardis. Mr Morris, and Hugh Hughes, a member and preacher at Penllys, and Mr M. Hughes, Thomas Williams, (Eos Gwnfa), a member of Sardis, all met at the home of John Breese, and after much discussion it was decided that Mr Morris Hughes should take care of the cause. The loyalty of the friends of Penllys was strongly with Mr Morris, he was the most popular preacher, but because of his large work area it would be impossible for him to care for the place. On the other hand Mr Morris Hughes, having given up the care of Penybontfawr some years earlier, therefore only had Sardis under his care, added to the fact that he was born and brought up locally meaning he had many friends in the area, including Thomas Williams, the poet, strongly supported him. There was no ill feeling between Mr Morris, Llanfyllin and Mr Hughes, Sardis, but some due to their loyalty to Mr Morris continued to attend Penllys for communion until his departure for Llanfyllin. A church was established here at that time, in Tynant - the home of Edward Watkin, close to where Braichywaun Chapel is situated. This cause was successful for about 3 years, despite the poor conditions. It was in this house that Mr R Hughes, now Kendall, was confirmed a member at the age of 8. For some reason they had to leave Edward Watkin' s house but 2 other doors opened up to them immediately - Rhydllechau and John Breese's home. Preaching took place according to convenience in both places but mainly in John Breese's home. "John Breese was truly Obed-Edom to God's Ark in Braichywaun. There was never a comparable character in the area, nor a more respected pair than John Breese and his wife Ann. He was only a humble stonemason, of low means, they both became disabled in their later years but willingly fed the preachers, giving their house to the Lord". We mentioned in the history of Ieuan Gwynedd, at Saron, Tredegar, that it was in this area he began to preach, he was a member of Sardis at the time, and as we have a few more anecdotes from those who began to preach with him we will include them here. Thomas Williams (Eos Gwynfa) was so impressed with Ieuan Gwynedd when he was speaking on the subject of temperance, that he persuaded his minister, Mr Morris Hughes, to raise him to preach, starting the same day as Joseph Williams, son of Thomas Williams. Mr Hughes mentioned to some friends of Sardis that there was talk of raising Evan Jones to preach, but there was not much support. He was called back after school one Sunday morning, and he was asked whether it would be better for him to postpone for a time, he did not say a word but began to cry, seeing this the brothers told him to go ahead, they would not stand in his way. On that Sunday morning Mr Morris Hughes was preaching in Felinwnfa and Joseph Williams preached a little ahead of him. In the afternoon Ieuan Gwynedd went to To Rhydyllechau for 2 o'clock and preached ahead of Mr Hughes and at 6pm in John Breese's house both Joseph Williams and Ieuan Gwynedd preached. This was the first time that Ieuan Gwynedd preached. There was regular preaching and the sacraments celebrated regularly at John Breese's home, until a chapel was eventually built. After many problems land was found to build on. One time a promise of land was had from Sir Watkyn's overseer, near Felinwnfa, but because of the objection of Mr Hamer, vicar of Llanfihangel, the work was stopped despite the fact that the foundations had been dug. The vicar had done some large favour for Sir Watkyn and had extracted a promise that no land within 2 miles of the church would be given for the building of a chapel, and despite Mr Hamer's death his successor, Mr Pugh, held the promise. About 1842 , Mr William Williams, a member at Penllys bought a house in the village of Llanfihangel, he was willing to sell it so that a chapel could be built there. When he Vicar heard of this he put aside the objection so that the chapel would not be built at the gate of the church, a piece of land was given next to the house of John Breese. The community was very faithful to the building of the chapel, especially Thomas Thomas Cefnllwyni, and Thomas Jones, Blaenycwm. The place was under the care of Mr Hughes, Sardis until his death, then Mr J Jones alongside Penllys, until he moved to Carno. When Mr Joseph Jones was settled in Sardis , he also took on Braichywaun, it remains under the care of his successor, Mr Evans. Thomas Williams (Eos Gwynfa) deserves mentioning for his hard work with the Sunday Schools from the beginning. He was confirmed at Llwydiarth, moved to Sardis when that closed, to his friend Mr Morris Hughes. He was a good poet and published a book named Telyn Dafydd (David's Harp). He was known for nurturing young men, and is still fondly remembered by many.
The following were raised to preach here
- JOHN WILLIAMS - son of Thomas Williams - went to the Baptists
- JOSEPH WILLIAMS - another son of Thomas Williams - now a supporting minister at Llansilin.
- ROBERT HUGHES - At Bala and Brecon colleges - ordained Welshpool, now at Cendl.
- EVAN THOMAS -mentioned with Machynlleth lived here for a long time.
Braichywaun remains a lively cause, full of hope as any within the parish of Llanflhangel-yn-ngwnfa.*
*Letters of John and Joseph Williams, R. Hughes, Cendl; article by Mr B. Evans, Sardis, in Cronicl yr Undeb.
**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
FOEL, LLANGADFAN
Dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y cymydogaethau hyn cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Yr oedd Evan Hughes, a'i wraig, Susan Hughes, Nantysaeson, tad a mam Mr Hugh Hughes, gweinidog y Foel wedi hyny, yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i groesawi pregethu i'w ty. Yr oedd gwraig Nantysaeson, yn ferch Ffriddfawr, Nantyreira, ac fel yr ymddengys, yn arfer myned yn achlysurol, os nad yn rheolaidd, i Lanbrynmair i wrando. Wedi priodi, aeth Evan Hughes a'i wraig fyw i Nantysaeson, rhwng y Foel a Mallwyd, a dechreuasant fyned wrando i Ddinas Mawddwy, a chyn hir, derbyniwyd y ddau yn aelodau yno. Yn mhen amser, prynodd Evan Hughes dyddyn, yn mhlwyf Garthbeibio, a elwid Llechwedd-bach, ac ar un Sabboth, daeth Mr Roberts, Llanbrynmair, yno i bregethu. Yn y ty Ile y cedwid y gwair y pregethai, ac afreolus iawn oedd y gwrandawyr. Daeth Mr Hughes, Dinas, i gynorthwyo Mr Roberts, a thrwyddedwyd y Llechwedd-bach yn lle addoli ; ac wedi i bobl yr ardal ddeall hyny, ymddygasant yn llawer mwy gofalus. Pregethwyd llawer yn y Llechwedd gan Meistri Azariah Shadrach, H. Pugh, ac R. Roberts, o'r Brithdir ; D. Richards, Tynyfawnog ; R. Roberts, Tyddynyfelin ; J. Lewis, Bala, ac eraill. Wedi codi ty newydd yn y Llechwedd, a thrwyddedu hwnw at bregethu, meddyliwyd am droi yr hen dy i gadw ynddo ysgol ddyddiol. Bu hen wr crefyddol, o'r enw John Llwyd, yma yn cadw ysgol am ychydig. Ar ei ol ef, daeth Rees Davies yma i gadw ysgol, a bu yn y lle dros dro, ac llafurus iawn yn pregethu yn mhob man y cawsai ddrws agored. Yn ei amser ef, ennillwyd yma dri at grefydd, fel yr oedd nifer y dysgyblion yn bump, a theimlent erbyn hyn yn galonog iawn i fyned yn mlaen. Tua'r flwyddyn 1797, ymwelodd Mr Hughes, Dinas, ag ardal y Foel, a phregethodd ar fuarth Llettypiod ; ac ar y diwedd, rhoddodd gyhoeddiad i fod yno drachefn, a derbyniwyd ef i'r ty yr ail waith. Trwyddedwyd y ty hwn hefyd i bregethu, a bu pregethu cyson am flynyddau yn y Lletty a'r Llechwedd ; yn un y boreu ac yn y llall y prydnhawn. Yn 1805, cafwyd darn o dir gan Mr Davies, Siop, i adeiladu capel y Foel arno. Nid oedd ond bychan, ond yr oedd dan yr amgylchiadau hyny yn gaffaeliad gwerthfawr. Yr oedd yr ardal yn dywyll ac anwybodus, a llawer o weddillion hygoeledd yn aros ; ond llafuriodd Mr Hughes, o'r Dinas, yma gyda ffyddlondeb mawr am fwy nag ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1820,
*Llythyrau Meistri John a Joseph Williams, ac R. Hughes, Cendl; ac ysgrif Mr B. Evans, Sardis, yn Nghronicl yr Undeb.
367
rhoddodd yr eglwys alwad i un Hugh Hughes, Llechwedd, pregethwr a godasid ganddi, i fod yn weinidog iddi; a llafuriodd yn ffyddlon yma am bedair-blynedd-ar-hugain, nes y bu raid iddo, oblegid gwaeledd a nychdod, roddi i fyny. Rhoddodd yr eglwys alwad i Mr Edward Roberts, myfyriwr o athrofa y Bala ; ac urddwyd ef Gorphenaf 9fed a'r 10fed, 1844. Pregethodd Mr D. Morgan, Llanfyllin, ar natur eglwys. Holwyd y gweinidog ieuangc gan Mr M. Jones, Bala, yr hwn hefyd a weddiodd. Dywedodd Mr D. Davies, Llanerfyl, a Mr Hugh Hughes, Foel, y ddau hen weinidog, air o'u teimladau ar yr achlysur. Pregethodd Mr H. James, Brithdir, i'r gweinidog ; a Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri T. Thomas, Dinas; W. Roberts, Llanrhaiadr ; D. Evans, Llanidloes ; R. D. Thomas, Penarth ; J. Thomas, Bwlchnewydd ; J. Jones, Penllys ; J. Davies, Llanfair ; a J. Davies, Glasbwll.* Bu Mr Roberts yma am wyth mlynedd, a symudodd oddiyma i Carno. Ar ei ol ef daeth Mr John Hughes yma, yr hwn a urddasid yn Victoria, Sir Fynwy, a bu yn y lle am saith mlynedd, a symudodd i Hanley, swydd Stafford. Yr oedd yr eglwys yn parhau i gasglu nerth yr holl flynyddoedd hyn, ond yn 1859 ac 1860, bendithiwyd hi ag ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd. Ychwanegwyd lluaws o bobl ieuaingc at yr eglwys, ac y mae llawer ohonynt yn glynu yn eu proffes. Yn y flwyddyn olaf a nodwyd, rhoddwyd galwad i Mr Caleb Evans, efrydydd o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 26ain, 1860. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr J. Jones, Machynlleth. Gofynwyd yr holiadau gan Mr J. Williams, Aberhosan. Dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr D. Evans, Penarth. Anerchwyd y gweinidog gan Mr J. Lewis, Henllan, a'r eglwys gan Mr H. Morgan, Sammah. Pregethwyd hefyd gan Meistri E. Williams, Dinas ; H. James, Llansantffraid ; W. Roberts, Penybontfawr ; E. Roberts, Carno ; R. Hughes, Trallwm ; a B. Evans, Sardis ; # ac y mae Mr Evans yma etto, yn parhau i lafurio. Yn 1846, yn fuan wedi sefydliad Mr E. Roberts yma, rhoddwyd darn newydd yn yr hen adeilad ; ond yn 1866, adeiladwyd ef yn gapel hardd, ac agorwyd ef wythnos y Pasg, 1867, a'r ddyled wedi ei thalu; ac y mae yr achos yn parhau mewn gwedd siriol, pan gofiom farweidd-dra yr amseroedd presenol ar grefydd.
Wedi ymadawiad y teulu o'r Llechwedd-bach, teimlid fod angen lle i addoli at wasanaeth y cwr hwnw o'r ardal, ac yn 1842, codwyd Beersheba. Nid oes eglwys wedi ei chorpholi yma, ond y mae yn gangen berthynol i'r Foel, lle y cynhelir Ysgol Sabbothol, a chyfarfodydd gweddi, a phregethu. achlysurol ; ond y mae yr ardalwyr gan mwyaf yn dyfod i'r Foel i'r odfa ddau o'r gloch bob Sabboth.
Codwyd yma i bregethu :-
- Hugh Hughes. Yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yma.
- David Rowlands. Yr oedd yn enedigol o'r Dinas. Yr oedd yn was yn Maes Garthbeibio. Priododd, ac aeth i'r America, ac y mae wedi marw yno.
- John Morris. Dechreuodd bregethu yn 1863. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala ; ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanrhaiadr Mochnant, lle y mae etto.
*Dysgedydd, 1814. Tu dal. 252. # Dysgedydd, 1860. Tu dal. 318.
368
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL
HUGH HUGHES. Ganwyd ef yn 1792. Yr oedd ei rieni, fel y crybwyllasom, yn byw yn Nantysaeson, ac wedi hyny yn Llechwedd-bach. Yr oedd yn ei febyd yn hynaws a charedig, a chymerodd iau Grist arno yn foreu. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn diniwed, mor nodedig felly, nes bod mewn llawer o bethau yn blentynaidd. Urddwyd of yn 1820, a llafuriodd yn ddiwyd yn ol mesur y dawn a rodded iddo. Ymgymerodd a chodi capel yn y Ddol-lwyd, a gwnaeth hyny gan mwyaf ar ei draul hun ; ond y mae y lle hwnw wedi ei roddi i fyny er's wyth-mlynedd-ar-hugain. Nid oedd ei alluoedd yn gryfion na'i wybodaeth yn eang, ond yr oedd ei ffyddlondeb yn fawr, a gwir ofalai am yr eglwys dan ei arolygiad ; ac yr oedd ei bryder am yr achos yn ei wneyd yn bruddaidd a chwynfanus. Codai yn foreu y Sabboth, ac elai o gylch i gymell pobl i'r cyfarfod gweddi saith o'r gloch. Ni bu erioed yn briod, ac yr oedd holl hynodion hen lanc ynddo. Mae gan ei gydoeswyr a'i frodyr yn y weinidogaeth lawer o chwedlau dyddan am dano, ond y mae y cwbl yn esboniad o'i ddiniweidrwydd, ac mor unplyg yr ydoedd gyda phob peth. Dyoddefodd yn dost oddiwrth ddiffyg anadl, a theimlodd fod angenrhaid arno i ymneillduo o'r weinidogaeth, fel y gallasai yr eglwys ddewis rhyw un ieuengach a chryfach. Wedi rhoddi yr eglwys i fyny, aeth i Lanfyllin i fyw at nith iddo, ac yno y gorphenodd ei yrfa. Yn ei gystudd, cwynai ei bod yn dywyll arno ; ond cyfododd goleuni iddo yn y tywyllwch, a bu farw mewn llawn sicrwydd gobaith, Tachwedd 15fed, 1846, yn 54 oed, a chladdwyd of yn mynwent Capel Pendref, Llanfyllin, lle yr erys ei weddillion marwol gydag eiddo llawer o rai rhagorol y ddaear.
Translation by Maureen Saycell (Dec 2009)
Preaching by the Independents began in this area before the end of the last century. Evan Hughes, his wife, Susan Hughes, Nantysaeson, parents of Mr Hugh Hughes, later minister of Foel, were among the first to welcome preachers to their home. The wife at Nantsaeson was a daughter of Ffriddfawr, Nantyreira and apparently went to listen in Llanbrynmair occasionally if not regularly. Following their marriage they moved to Nantysaeson, between Foel and Mallwyd, they began to go to Dinas Mawddwy, listening initially then became members. In time Evan Hughes bought a smallholding named Llechwedd-bach, in the parish of Garthbeibio, one morning Mr Roberts, Llanbrynmair came there to preach. He preached in the hay store, the listeners were unruly. Mr Hughes, Dinas, came to help Mr Roberts and Llecwedd-bach was licenced as a place of worship, once the locals realised this their behaviour improved. The following preached often at Llechwedd - Messrs Azariah Shadrach, H. Pugh, and R. Roberts, Brithdir ; D. Richards, Tynyfawnog ; R. Roberts, Tyddynyfelin ; J. Lewis, Bala, and others. After building a new house at Llechwedd and licencing it, it was decided to use the old house as a day school. An old religious man named John Llwyd kept school here for a time. After him came Rees Davies to keep school and was very industrious, preaching wherever he got an open door. During his time 3 were gained so the number of pupils increased to 5, which was encouraging. Around 1797 Mr Hughes, Dinas, visited the Foel area and preached in the farmyard at Llettypiod. At the end an announcement was made that he would return and he was welcomed to the house a second time. This house was also licenced for worship and there was regular preaching for many years at Lletty and Llchwedd, one in the morning and the other in the afternoon. In 1805 a piece of land was donated by Mr Davies, The Shop, to build Foel Chapel on. It was only small but in the circumstances, invaluable. The area was dark and uneducated with the remains of superstition still there, but Mr Hughes, Dinas, worked here faithfully for more than 20 years. In 1820 the church called Hugh Hughes, a preacher raised here, to be their minister. He worked faithfully for 24 years, until ill health foced him to retire. The church then called Mr Edward Roberts, a student at Bala. He was ordained July 9th and 10th, 1844. Mr D. Morgan, Llanfyllin, preached on the nature of a church. The young minister was questioned by Mr M. Jones, Bala, who also offered a prayer. Mr D. Davies, Llanerfyl, and Mr Hugh Hughes, Foel, the two old ministers, spoke a few words on the occasion. Mr H. James, Brithdir, preached to the minister ; and Mr S. Roberts, Llanbrynmair, to the church. Sermons were also given by Messrs T. Thomas, Dinas; W. Roberts, Llanrhaiadr ; D. Evans, Llanidloes ; R. D. Thomas, Penarth ; J. Thomas, Bwlchnewydd ; J. Jones, Penllys ; J. Davies, Llanfair ; and J. Davies, Glasbwll.* Mr Roberts was here for 8 years before moving to Carno. Then came Mr John Hughes, who had been ordained in Victoria, Monmouthshire, who was here for 7 years before moving to Hanley, Staffordshire. The church continued to gain strength but in 1859 and 1860 it was blessed by a visit from the Lord. Many young people were added to the church, and continue with their faith. In that year a call was sent to Mr Caleb Edwards, a student at Carmarthen, he was ordained on 26th July, 1860. A sermon was given by Mr J. Jones, Machynlleth, on the nature of a church. The questions were asked by Mr J. Williams, Aberhosan. Mr D. Evans, Penarth, offered the ordination prayer. The minister was addressed by Mr J. Lewis, Henllan, and the church by Mr H. Morgan, Sammah. Sermons were also given by Messrs E. Williams, Dinas ; H. James, Llansantffraid ; W. Roberts, Penybontfawr ; E. Roberts, Carno ; R. Hughes, Welshpool ; and B. Evans, Sardis ; # Mr Evans continues to labour here. In 1846, soon after Mr E. Roberts settled here an extension was added to the old chapel, but in 1866 a handsome new chapel was built which was opened Easter week, 1867, with the debt paid. The cause continues with a cheerful appearance, especially considering the current depressed state of religion.
Following the departure of the family from Llechwedd-bach, it was felt that there was a need for somewhere to worship in that district, in 1842 Beersheba was built. There is no church established there, it is a branch of Foel, where Sunday Schools, prayer meetings and occasional preaching takes place, but most of the parishioners attend the 2 o'clock service on the Sabbath.
The following were raised to preach here -
- HUGH HUGHES - later ordained here.
- DAVID ROWLANDS - native of Dinas, servant at Maes Garthbeibio - married - went to America, died there.
- JOHN MORRIS - began preaching 1863 - educated Bala - ordained in Llanrhaiadr Mochnant, where he remains.
BIOGRAPHICAL NOTES**
HUGH HUGHES - born 1792 - parents lived at Nantysaeson, then Llechwedd-bach - Kind man, considered naive by many - ordained 1820, - built the chapel Ddol-lwyd, mostly at his own expense - his knowledge was not extensive, but he was faithful and caring - used to go to people's homes to get them to go to the 7 am service - never married - suffered badly from shortness of breath and withdrew from the church to allow the appointment of another minister - moved to live with his niece at Llanfyllin - died November 15th, 1846, aged 54 - buried Capel Pendref, Llanfyllin.
*Dysgedydd, 1814. Tu dal. 252.
# Dysgedydd, 1860. Tu dal. 318.
**Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
LLANERFYL
Capel y Diosg, y gelwir ef yn yr ardal, am fod ychydig o dai yn y man lle y mae yn dwyn yr enw hwnw. Dechreuwyd pregethu yn y Siop, yn y Llan, ac yn y Tygwyn, lle y preswyliai John Evans, yr hwn oedd yn briod a chwaer Mr David Davies, Llanerfyl. Bu pregethu a chyfarfodydd gweddio yn y ddau dy uchod am flynyddau, ac nid oeddynt yn gofalu rhyw lawer ba sect y perthynai y pregethwyr. Bu llawer o bregethwyr y Methodistiaid ynddynt yn pregethu o bryd i bryd, megis Meistri Humphrey, Gwalchmai ; J. Hughes, Pontrobert ; Ismael Jones, ac eraill ; mai Meistri W. Hughes, Dines ; M. Hughes, Sardis ; E. Davies, Allt-tafolog; a D. Davies, Llanerfyl, a bregethai iddynt fynychaf. Nid oedd yma ar y pryd ond ychydig o broffeswyr, ac i'r Foel yr elent i gymuno. Symudodd John Evans, o'r Tygwyn i Gyfylche, ond yr oedd cartref i'r achos yn ei dy yno hefyd, a phregethodd Mr Hughes, o'r Dinas, ac eraill, lawer yn y Tygwyn, Pandy, Siop, Gyfylche, a llawer o fanau eraill. Dechreuwyd Ysgol Sabbothol yn Llanerfyl yn ysgubor Mr Davies, Siop ; ac yr oedd yno nifer o frodyr yn selog drosti, ac nid ofer fu eu llafur. Trwy yr ysgol a'r pregethu lladdwyd yr ofergampiau a ddygid yn mlaen yn yr ardal yma ar ddydd yr Arglwydd, ar ol i bob parth yn mron o'r Dywysogaeth eu rhoddi i fyny. Yn
369
1824, corpholwyd yma eglwys, nad oeddynt ond saith mewn nifer. Yn 1827, y codwyd y capel, a'r un flwyddyn derbyniodd Mr David Davies, un o aelodau cyntaf yr eglwys, alwad i fod yn weinidog, ac urddwyd ef, Medi 12fed. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr C. Jones, Dolgellau ; gofynwyd yr holiadau a dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr J. Roberts, Llanbrynmair ; pregethodd Mr E. Davies, Trawsfynydd, i'r. gweinidog, a Mr J. Roberts, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Davies, Llanfair ; J. Jones, Main; H. Hughes, Foel; ac M. Hughes, Sardis. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn yr eglwys pan urddwyd Mr Davies, yn 1827, ond pan y rhoddodd yr eglwys i fyny, yn 1844, yr oedd yn driugain o nifer. Oherwydd ei fod yn teimlo yn adfeiliedig o ran corph a meddwl, rhoddodd yr eglwys i fyny, ac unodd Llanerfyl a'r Foel, yn 1844, i fod yn un weinidogaeth, a dewiswyd Mr E. Roberts, i fod yn weinidog ; ac y mae y Foel a Llanerfyl yn parhau hyd yr awr hon dan yr un weinidogaeth; ac ond edrych pwy fu y gweinidogion yn y Foel, gwelir hefyd pwy fu yma. Yn 1862, adgyweiriwyd y capel trwy draul o £100, a thalwyd y cwbl yn fuan.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
DAVID DAVIES. Ganwyd ef yn y Tygwyn, Llanerfyl, yn 1780. Yr oedd ei rieni Thomas a Mary Davies, yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a gallwn gasglu iddo gael addysg grefyddol yn foreu. Denwyd of i wrando Mr Hughes, o'r Dinas, yn ei ymweliadau cyntaf a Llanerfyl, ac yr oedd yn mysg y rhai cyntaf yn yr ardal i broffesu crefydd ; ei fod yn 30 oed cyn gwneyd hyny. Bu rai blynyddoedd cyn dechreu pregethu, ac yr oedd yn 47 oed pan urddwyd of i waith y weinidogaeth. Gwladwr syml a dirodres ydoedd, yn gyffelyb i amaethwyr ei wlad yn gyffredinol. Yr oedd yn ddyn o ddeall da, ac o synwyr cyffredin cryf, yn meddu llawer o ffraethineb tawel, ac yn llawn caredigrwydd a natur dda. Cerid ef fel cymydog gan bawb, ac nid oedd anmheuaeth yn meddwl neb nad ydoedd yn "Israeliad yn wir." Ni chafodd ddim manteision addysg, ond yr oedd ganddo gof cryf, a dawn ymadrodd a pharabl rhwydd, a melus. Gweithiwr egniol ydoedd. Trwy ei lafur ef yn benaf y codwyd capel Llanerfyl, a thrwy ei ymdrechion ef yn benaf y talwyd am dano. Llafuriodd lawer yn Dolanog heb nemawr ddim cydnabyddiaeth am ei waith. Rhoddodd y weinidogaeth i fyny pan welodd nas gallasai fod o lawer o ddefnydd yn hwy ; ond rhoddi y gofal i fyny, gwnaeth ei oreu tra y gallodd i gynorthwyo ei olynydd yn y swydd. Cafodd iechyd da trwy ei oes, hyd o fewn tair blynedd i'w ddiwedd. Cododd dafaden wyllt ar ei wefus isaf, yr hon, pob dyfais feddygol a ymwthiodd yn ddyfnach, nes myned a'i fywyd ymaith, Mawrth 23ain, 1850, pan yn 70 oed. Dyoddefodd boenau dirfawr, ond dyoddefodd y cwbl fel cristion, a bu farw mewn tangnefedd.
Translation by Maureen Saycell (Oct 2009)
Known locally as "Capel y Diosg", as there were a few houses there bearing that name. Preaching began in the shop, at Llan and Tygwyn, where John Evans lived who was married to Mr David Davies, Llanerfel's sister. Sermons and prayer meetings took place in the above houses for many years, not much attention was given to which denomination the preachers belonged to. Many Methodist preachers preached there from time to time , including Messrs Humphrey, Gwalchmai ; J. Hughes, Pontrobert ; Ismael Jones, and others ; Messrs W. Hughes, Dinas ; M. Hughes, Sardis ; E. Davies, Allt-tafolog; and D. Davies, Llanerfyl, preached most frequently. There were few who professed their beliefs at the time, they attended communion at Foel. John Evans moved from Tygwyn to Gyfylche, but there was a home for religion there too and Mr Hughes, Dinas, and others preached there and Pandy, Shop and Gyfylche. A Sunday school was started in Llanerfel in Mr Davies, the Shop's barn. There were many who were very supportive and their work was not in vain. Through sermons and the work of the Sunday school the evil games that used to take place here on the Lord's day were eliminated, after almost all other parts of the Principality had done so. In 1824 a church was established here, they were only seven in number. In 1827 a chapel was built, and in the same year Mr David Davies, one of the first members accepted a call to become its minister. He was ordained on June 12th. On the occasion Mr C Jones, Dolgellau, preached on the nature of a church. The questions were asked and the ordination prayer were offered by Mr J. Roberts, Llanbrynmair ; Mr E. Davies, Trawsfynydd, preached to the minister and Mr J. Roberts, to the church. Sermons were also given by Messrs J. Davies, Llanfair ; J. Jones, Main; H. Hughes, Foel; and M. Hughes, Sardis. There were only 12 members when Mr Davies was ordained in 1827, but when he left in 1844 there were 60 members. As he was feeling worn out in body and mind, he gave up the church and they merged with Foel in 1844 to become one ministry, Mr E Roberts was chosen to be the minister. Foel and Llanerfel continue under the same ministry and by looking at Foel we see who were ministers here. In 1862 the chapel was refurbished at a cost of £100, which was soon paid.
BIOGRAPHICAL NOTES*
DAVID DAVIES - born Tygwyn, Llanerfyl, 1780 - parents Thomas and Mary were Calvinistic Methodists - age 30 when he declared his religious beliefs - age 47 when he was ordained - Llanerfel chapel was built mainly through his efforts - worked hard in Dolannog without recognition - died March 23rd, 1850, aged 70.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
DOLANOG
(Llanfair Caereinion parish)
Yn y flwyddyn 1806, daeth un David. Thomas, o ardal Penarth yma gadw ysgol. Cymerodd ystafell i'r perwyl, mewn ty a elwid y Dafarn, oblegid ei fod wedi bod felly unwaith, ond nid oedd felly y pryd hwn. Rhoddid yr ystafell yn rhad gan David Harris, y perchenog, ond yn unig
370
i'r athraw roddi addysg i ddau o'i blant. Gan fod David Thomas yn bregethwr, gofynai genad i bregethu yn yr ystafell y Sabboth, a chafodd hyny; a deuai cryn lawer i'w wrando, oblegid yr oedd pregethu yn newydd-beth yn yr ardal. Dechreuodd gadw cyfeillachau crefyddol yno, ac yn mysg y rhai cyntaf a unodd a'r achos, yr oedd Ann Wood, ac Abraham Wood, y Gro, ac Elizabeth Williams, Maesyglynog. Yn fuan daeth y ddau frawd Meistri R. a C. Jones, Llanfyllin, i gynorthwyo David Thomas ; ac er fod y rhai a ddeuant yn nghyd yn aml yn afreolus ac anweddaidd, etto, daliodd y gwyr da hyn, ac eraill i bregethu iddynt. Codwyd y capel yn 1810, yn benaf drwy offerynoliaeth Mr R. Jones, Llanfyllin, a bu ef ei hun ar daith trwy y Deheudir yn casglu ato. Cafodd daith galed, ond dychwelodd gyda digon o arian i orphen talu y ddyled.* Wedi symudiad yr athrofa i Lanfyllin, cafwyd llawer o help gan y myfyrwyr ; a byddai Mr W. Hughes,o'r Dinas, yma yn amlach na neb arall yn gweini yr ordinhadau, a sonir am dano gan yr hen bobl gyda serch mawr. Yn fuan wedi codi y capel, daeth Lewis Pugh, Llanwrin, yma i gadw ysgol, ac i bregethu, a bu yn y lle dros rai blynyddoedd. Wedi ei urddo yn Llanfair, deuai Mr James Davies yma yn fynych ; ond Mr David Davies, Llanerfyl, ar ol urddo yn 1827, oedd y gweinidog cyntaf a fu yn gweini i'r eglwys yma gydag un math o reoleidd-dra. Bu yn dyfod yma am flynyddau, a'r cwbl a dderbyniai am ei lafur oedd swllt bob Sabboth ; ond pan y deuai i'r cyfeillachau crefyddol, i'r rhai y deuai fynychaf bob wythnos, fod ganddo filldiroedd o ffordd, ni feddylid am gynyg ceiniog iddo. Yr oedd yma ar y: pryd hwnw gynnulleidfa luosog, ac eglwys yn gymharol gref. We urddo Mr John Jones, yn Penllys, yn 1841, cymerodd ef ei gofal, a bu yn llwyddianus tra yr arosodd yma. Wedi bod flynyddau heb weinidog, gan ddibynu ar weinidogion a phregethwyr yr eglwysi cylchynol, tua wedd 1859, daeth Mr Robert Fairclough yma, a chytunasant ag ef i gymeryd eu gofal am flwyddyn, ond pan y daeth y flwyddyn i ben, ni fynai ymadael, a helynt flin a ganlynodd; a rhwng annghallineb a chyndynrwydd, y naill a'r llall, llwyddasant i lwyr ysigo yr achos, fel y bu y lle am yspaid, mai anaml yr agorid y drws, oblegid na ddeuai neb yma i bregethu. Yn niwedd 1865, daeth Mr Richard O. Evans yma i gadw ysgol, ac i bregethu; ac yn ystod ei arosiad ef yma, cafwyd moddion rheolaidd yn Sabbothol, ac yn wythnosol, ond yn Mehefin, 1867, ymadawodd i gymeryd gofal eglwys Glynhafren, gerllaw Llanidloes ; ac er hyny dibyna y lle ar weinidogaeth achlysurol.
Translation by Maureen Saycell (Dec 2009)
In 1806 a David Thomas, from Penarth area, came to keep a School here. He took a room at a house known as Y Dafarn (The Inn/Public House), which it was at one time, but was no longer. The room was given free by David Harris, the owner, but only for the teaching 2 of his own children. As David Thomas was a preacher he got permission to preach there on Sundays, many came to listen because it was something new in the area. He began to hold religious socials there, among the first to join the cause were Ann and Abraham Wood, Y Gro and Elizabeth Williams, Maesyglynog. Soon two brothers Messrs R and C Jones, Llanfyllin came to support David Thomas, and despite the fact that those who came were unruly and immoral, these good men and others continued to preach to them. A chapel was built in 1810, mostly through the efforts of Mr R Jones, Llanfyllin, who undertook a journey through South Wales to raise money. He had a difficult journey but returned with enough money to clear the debt. After the College moved to Llanfyllin the students helped a great deal. Mr W Hughes, Dinas was the most frequent celebrant here, and was very popular. Soon after the chapel was built Lewis Pugh, Llanwrin, came here to keep a school and preach, he remained here for some years. Following his ordination in Llanfair, Mr James Davies came here frequently but Mr David Davies, after his ordination at Llanerfel was the first minister to care for this church in a regular way. He came here for many years with the only payment a shilling per Sunday, but the weekly religious socials that he attended almost weekly, he was never offered any payment. At that time there was a large congregation, and a fairly strong church. After the ordination of Mr John Jones at Penllys in 1841 he took on the care here successfully for the time he was here. Following many years without any minister, Mr Robert Fairclough and they agreed for him to take care of them for a year. At the end of that year he did not want to leave and there followed considerable troubles, which weakened the cause considerably, and the doors were seldom opened as no one came to preach here. Towards the end of 1865 Mr Richard O Evans came to keep a school here and preach, during his time regular Sunday services were held weekly, but in July 1867 he left to care for Glynhafren, near Llanidloes. Since then the place has depended on occasional ministry.
*Only a shortened version of these biographical and professional notes have been translated.
TRALLWM (Saesonaeg)
(Welshpool parish)
Yr ydym yn cael fod Ymneillduaeth wedi ymdaenu i raddau helaeth yn y Trallwm, a'r gymydogaeth, yn amser y werin-lywodraeth. Bu y Crynwyr yno ar un adeg yn lled luosog, a chan mai o eglwysi yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, yn ol eu haddefiad eu hunain, y darfu iddynt hwy gasglu y rhan luosocaf o'u dysgyblion cyntaf, mae yn naturiol casglu fod Ymneillduaeth yn lled gryf yn y parthau hyn ar amser eu cyfodiad hwy. Ymddengys oddiwrth hanes Richard Davies, Cloddiau-cochion, un o'r Crynwyr, ei fod ef yn perthyn i'r Annibynwyr yn nhref y Trallwm, canys dywed
* Llythyr Mr R. O. Evans.
371
fod yr " Anymddibynwyr y bobl y perthynwn i iddynt gynt, yn bobl neillduedig, wedi eu casglu yu benaf gan Vavasor Powell." Dywed iddo ymuno a hwy pan oedd. " tua 12 neu 13 oed ;" a Chan mai yn y flwyddyn1635 y ganwyd ef, rhaid mai o gylch y flwyddyn 1648 yr ymunodd a hwy. Pregethodd Mr Vavasor Powell lawer yn erbyn y Crynwyr, ac aeth Richard Davies i'r Cloddiau-cochion unwaith gan ddisgwyl clywed Mr Powell, a chyda y bwriad i'w wrthwynebu. Fel hyn y dywed Richard Davies ar hyny, " Vavasor Powell a bregethodd lawer yn erbyn y Crynwyr ; pan glywais i hyn, daethum i le a elwid y Cloddiau-cochion, yn agos i'r Trallwm, i'w cyfarfod hwynt, gan ddisgwyl y cawn ef yno; and nid oedd ef yno. John Griffithes, Ynad Heddwch yn y dyddiau hyny, oedd yn pregethu yno." Gallwn gasglu oddiwrth yr hanes, fod hyn tua'r flwyddyn 1658. Crybwyllasom fwy nag unwaith am y John Griffiths yma, yn nglyn a hanes Llanfyllin ; ac y mae yn eglur ei fod yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos yn y dyddiau hyny.
Yr oedd Mr Nathaniel Ravens, yn gweinidogaethu yn eglwys plwyf y Trallwm, ar amser adferiad Siarl II, a chafodd ei droi allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, yn 1662. Nis gwyddom i sicrwydd pa beth a ddaeth o hono ar ol hyny. Wedi i Vavasor Powell, yn 1655, newid ei farn ar fedydd, a chymeryd ei drochi tua'r flwyddyn 1657, daeth dyn a elwid Morgan Evan, o Ddeheudir Cymru, i gyffyrddiad a Richard Davies, yr hwn ar y pryd hwnw oedd yn perthyn i'r Annibynwyr, ac o'r pryd hwnw aeth Richard Davies, yn Grynwr selog a llafurus. Felly chwalwyd yr Annibynwyr yn y Trallwm, a'r amgylchoedd ; aeth rhai yn Fedyddwyr gyda, Vavasor Powell, a'r lleill yn Grynwyr gyda Richard Davies ; a darfu am yr achos yn llwyr; ac y mae yn ymddangos i Ymneillduaeth wywo o radd i radd yma gydag amser, nes darfod yn hollol. Ryw bryd ar ol y flwyddyn 1780, ailgychwynwyd yma achos Annibynol. Nis gallasom gael allan i sicrwydd pa bryd ei dechreuwyd. Mae Mr D. Morgan, yn ei ysgrifiau angyhoeddedig, yn dyweyd mai Mr John Griffith, Llanfyllin a ddechreuodd bregethu yma yn ystod y ddwy flynedd o 1780 i 1782, y bu yn aros yn Llanfyllin; ac ychwanega, mai Miss Meredith, (Mrs Griffith, wedi hyny), a'i mam, a roddodd dir at adeiladu Capel yma. Mae yr ymroddiad mawr a ddangoswyd gan Mr Griffith, i eangu terfynau yr achos yn ystod yr adeg fer y bu yn Llanfyllin, yn gystal a'r traddodiad sydd yn gyffredinol yn y dref, a'r amgylchoedd, mai efe a fu yr offeryn i'w sefydlu, yn ein gogwyddo yn i gydsynio a'r hyn a ddywedir gan Mr Morgan, mai i lafur Mr Griffith fel offeryn, y mae yr achos yn y Trallwm yn ddyledus am ei gychwyniad.
Yn ol hen lyfr yr eglwys, yr hwn sydd yn awr yn meddiant y Cofrestrydd Cyffredinol yn Somerset House, Llundain, Mr Richard Tibbott oedd y gweinidog yma yn 1788, a Mr Jenkin Lewis, Llanfyllin, a ystyrid fel gweinidog yn 1790, ac mae yn debygol iddo ef barhau i ddyfod yma, yn fisol neu fynychach, hyd 1793. Mae yn ymddangos mai un Mr Thomas Evans, eglwyswr efengylaidd, fel y tybir, a dyn o gryn, gyfoeth a dylanwad, fu y prif offeryn mewn cysylltiad a gweinidogion Llanbrynmair a Llanfyllin, i sefydlu eglwys yma. Pregethid yn y lle yn flaenorol; ond nid ymddengys i eglwys gael ei chorpholi yma cyn Rhagfyr 19eg, 1793, ac ar yr 21ain o'r un mis, gweinyddwyd Swpper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc, gan Mr J. Whitridge, Croesoswallt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau ar gorpholiad yr eglwys : Thomas Evans, Thomas Jones,
372
John Taylor, Morris Edwards, John Roberts, Joseph Jones, Grace Evans, a Mary Jeffreys. Yr oeddynt er mis Medi cyn hyny wedi cyduno i roddi galwad i Mr David Francis, myfyriwr yn athrofa Gwrecsam. Bu Mr Francis yn pregethu yma o1793 hyd Mawrth 3 leg, 1796, cyn cael ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. Nis gwyddom pa beth oedd y rheswm iddo fod cyhyd heb gael ei urddo. Rhoddir hanes yr urddiad fel y canlyn yn yr Evangelical Magazine : - "Dydd Iau, Mawrth 31ain, 1796, urddwyd y Parch. Mr Francis yn weinidog yr eglwys Annibynol yn Trallwm, Maldwyn. Dechreuwyd y gwasanaeth trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Mr Edwards, Wem ; traddodwyd y gynaraeth, a derbyniwyd y gyffes ffydd gan y Parch. Mr Whitridge, Croesoswallt ; gweddiwyd yr urdd-weddi gan y Parch. Mr Lucas, Amwythig ; traddodwyd y siars i'r gweinidog gan y Parch. Mr Lewis, Wrecsam ; ac i'r eglwys gan y Parch. Mr J. Boden, Hanley. Mae yn hyfrydwch genym edrych ar waith y dydd hwn, pan feddyliom nad oedd yn y dref hon tua deuddeng mlynedd yn ol ddim pregethu efengylaidd, a bod yr achos ieuangc yma pan ddechreuwyd pregethu yn efengylaidd yn y lle, wedi gweithio ei ffordd trwy lawer o gyfnewidiadau ac anhawsderau. Yr ydym yn hyderu y bydd i'r undeb a ffurfiwyd heddyw, effeithio llawer o ddaioni i eneidiau, a gogoniant i Dduw. Mae yn ymddangos fod llawer o bobl y dref yn gogwyddo roddi gwrandawiad astud i'r gwirionedd." Aelod o eglwys y Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, oedd Mr Francis. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Nghresoswallt, Awst 15fed, 1789. Dywed Mr Lucas, o'r Amwythig, wrth gymeradwyo ei achos i'r Bwrdd Cynnulleidfaol yn Llundain, ei fod yn ddyn da iawn, yn bregethwr rhagorol, ac yn nodedig am ei gallineb. Nid Ymddengys iddo fod yn nodedig o lwyddianus yn y Trallwm, na fu yn hollol ddilwydd. Rhif yr aelodau ar ffurfiad yr eglwys, fel y gwelsom, oedd wyth, a deuddeg oedd eu rhif yn niwedd y flwyddyn 1796. Yr ydym wedi methu a chael gafael ar weithred y capel, gwybod pa bryd adeiladwyd ef, a phwy a roddodd y tir. Yn ol rhyw hen gofysgrifau sydd etto ar gael, ymddengys i'r capel gael ei godi rywbryd o 1798 i 1800.* Yr oedd ganddynt " dy cyfarfod" cyn codi y capel ; ond nis gwyddom yn mha le yn y dref yr oedd. Telid ardreth am dano, ac y mae £10 o ardreth am yr hen gapel, yn cael ei roddi yn nhraul y capel newydd. Yn nhymor gweinidogaeth Mr D. Francis y codwyd y capel. Costiodd £344/10/6 1/2c. Bu Mr. Francis yn casglu llawer at y draul, ond ni ddywedir yn yr hen gofysgrifau sydd ar gael, pa faint a gasglodd ; ond talwyd iddo £56/18/4 1/2c., am ei lafur, ac ar gyfer ei dreuliau ; a thalwyd £5/9/8c i'r pregethwyr a fu yn gweini i'r eglwys yn ei absenoldeb. Yr anffawd am yr holl fan bapurau hyn ydyw, nad oes dyddiad wrth yr un ohonynt. Bwriedid unwaith i godi y capel yn agos i'r fynedfa i barc Castell Powys ; ond dangoswyd gwrthwynebiad gan deulu y castell i hyny; a chyda rhyw fanteision tybiedig ar y pryd, cynygiwyd iddynt y lle y saif y capel yn awr arno, yr hwn a dderbyniwyd, ond taflwyd ef drwy hyny i heol o'r neilldu.
Yn y flwyddyn 1799, ymneillduodd pedwar o'r aelodau, a gosodasant i fyny achos Wesleyaidd yn y dref, ac ymadawodd un arall yn yr un flwyddyn, er dechreu achos i'r Bedyddwyr, ond er y colledion hyn, yr oedd rhif yr aelodau yn niwedd flwyddyn hon yn bedwar-ar-bymtheg. Ar y 27ain o Awst, 1800, rhoddodd Mr Francis ei weinidogaeth i fyny.
* Llythyr Mr R. Hughes, Cendl.
373
Nid ydym yn gwybod dim o'i hanes ar ol hyn. Wedi ymadawiad Mr Francis, bu yr eglwys heb un gweinidog sefydlog hyd Ebrill 18fed, 1802, pryd y rhoddwyd galwad unfrydol i Mr David Davies, Treffynon. Arwyddwyd ei alwad gan Mr Thomas Evans, ac un-ar-ddeg eraill o'r aelodau, yn nghyda phedwar o'r gwrandawyr, y rhai nid oeddynt yn gymunwyr. Yn yr alwad hon, addewir i Mr Davies £20 y flwyddyn o gyflog, sef tair punt yn fwy nag a roddid i'w ragflaenydd, Mr Francis ; " heblaw yr hyn a allasai gael o'r funds yn Llundain." Nid ymddengys i Mr Davies fod yma dros o dair i bedair blynedd, ac nis gwyddom pa un ai yma y bu farw, ai ynte a symudodd i ryw le arall. Dywedir mai yn ardal Penygraig, Sir Gaerfyrddin, y ganwyd Mr Davies, ond nid ydym yn sicr o hyny, nac ychwaith o amser ei enedigaeth. Cafodd ei addysgu yn athrofa Caerfyrddin, yr hon a gedwid yn Abertawe, yn nhymor ei efrydiaeth ef. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn 1876, ac aeth allan yn 1790, pryd yr urddwyd ef yn Nghapel Sul, Cydweli. Bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, mewn cysylltiad a Phenygraig, hyd y flwyddyn 1795, pryd y symudodd i Dreffynon,Sir Fflint. Ni bu yn Abergavenny, fel y camddywedir yn Llyfryddiaeth y Cymry. Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Nhreffynon, dechreuodd gyhoeddi Y Geirgrawn, neu Drysorfa Gwybodaeth. Oherwydd fod y cyhoeddiad hwn yn amddiffyn egwyddorion rhyddfrydig, bu ei olygydd mewn enbydrwydd, a dywedir iddo orfod ymguddio am beth amser rhag cael ei ddal. Bu Mr Davies yn Nhreffynon hyd y flwyddyn 1799 neu 1800, ond nis gwyddom yn mha le y bu o'r pryd hwnw hyd nes iddo ymsefydlu yn y Trallwm yn 1802, ac y mae ei hanes ar ol ei ymadawiad oddiyma, os nad yma y bu farw, yn hollol anhysbys i ni. Ar ymadawiad Mr Davies, urddwyd Mr George Ryan, yr oedd ar y pryd yn bregethwr teithiol yn Sir Amwythig, i fod yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Minsterley a'r Trallwm. Felly y dywedir yn hanes ei urddiad yn yr Evangelical Magazine, am 1806, tudal. 380 Cymerodd ei urddiad le Mai 28ain, 1806.Mae yr hanes hwn a'r cofnodion yn llyfr eglwys y Trallwm, yn ymddangos yn anghyson. Yn ol llyfr yr eglwys, yn 1812 y dechreuodd Mr Ryan ei weinidogaeth yma. Bu Mr John Harries, am yr hwn nid oes genym unrhyw hanes, yn weinidog yma o 1808, hyd tua diwedd 1811. Dichon i Mr Ryan fod yma ran o'i amser mewn cysylltiad a Minsterley, o 1806 hyd 1808, pryd y rhoddwyd galwad Mr Harries. Yn 1812, ymsefydlodd Mr Ryan yn gyflawn yma, a pharhaodd ei weinidogaeth hyd 1830. Mae yn debygol iddo farw y flwyddyn hono, ond yr ydym wedi methu taro wrth hanes ei farwolaeth yn un o fisolion y flwyddyn hono, na'r blynyddau dilynol. Ei fab ef oedd G. Ryan, D.D., am yr hwn y rhoddasom ychydig hanes yn to dal. 46. Dilynwyd Mr Ryan, gan Mr Thomas Morgan, yn awr o Hinckley, Sir Leicester. Aelod gwreiddiol o eglwys Ebenezer, Pontypool, yw Mr Morgan, ac addysgwyd ef yn athrofa y Drefnewydd. Derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys hon yn Gorphenaf, 1831, ond yn y flwyddyn ganlynol yr urddwyd ef. Bu yma hyd y flwyddyn 1840, pryd y symudodd i Loegr. Y gweinidog nesaf oedd Mr C. Hudson, urddwyd of yma yn 1840, a rhoddodd ei weinidogaeth i fyny yn Ionawr, 1844. Yn Mai, yr un flwyddyn, y rhoddwyd galwad i Mr H. Kerrison, ac urddwyd ef Mehefin I leg, 1845, pryd y gweinyddwyd gan Dr. Raffles, Liverpool ; Mr Pearce, Wrecsam ; Dr. Halley, Manchester, ac eraill. Y dydd blaenorol, agorwyd y capel newydd, pryd y casglwyd ato dros un bunt a deugain. Yn mis Medi, 1849, rhoddodd Mr Kerrison ei weinidogaeth i fyny o ddiffyg iechyd. Yn yr
Translation by Maureen Saycell (Jan 2011)
We find that nonconformity had spread to Welshpool and the vicinity in the time of the Commonwealth Government. The Quakers were here for some time and by their own admission they recruited from Independent and Baptist chapels. Richard Davies, Cloddiau-cochion, a Quaker, states that he was once an Independent mainly following Vavasor Powell. He said he joined at 12 or 13 - born 1635 that would be around 1648. On one occasion he went to listen to Vavasor Powell, as he frequently preached against the Quakers but found that he was not there, instead it was John Griffithes, a Justice of the Peace, that was preaching - he is mentioned many times with Llanfyllin.
Mr Nathaniel Ravens was the vicar at the Church in Welshpool, but was removed by the Act of Uniformity in 1662. Following Vavasor Powell's change of heart regarding baptism in 1665, he was actually baptised around 1657, a man from South Wales named Morgan Evan came in contact with Richard Davies and from then on he was a committed Quaker. The Independent cause disappeared from Welshpool and it's vicinity, some became Baptists with Vavasor Powell and others followed Richard Davies to the Quakers. Nonconformity virtually disappeared until 1780 when the Independents re-started. Unpublished papers by Mr D Morgan say that Mr John Griffith, Llanfyllin began preaching here 1780 - 82 and it was due to his hard work that the cause in Welshpool owes its beginnings. According to the church records held by the Registrar General in Somerset House, London Mr Richard Tibbott was minister here in 1788, Mr Jenkin Lewis, Llanfyllin, in 1790, continuing until 1793. The Church was established through the efforts of Mr Thomas Evans, a man of wealth and influence, in conjunction with the ministers of Llanbrynmair and Llanfyllin. The church appears to have been formed December 19th, 1793 and communion was celebrated by Mr J Whitridge, Oswestry. The following were the members - Thomas Evans, Thomas Jones, John Taylor, Morris Edwards, John Roberts, Joseph Jones, Grace Evans and Mary Jeffreys. They had decided in the previous September to call Mr David Francis, student at Wrexham, who began preaching here in 1793 but was not ordained until March 31st, 1796 - the report appeared in the Evangelical Magazine - officiating were Rev. Mr Edwards, Wem, Rev Mr Whitridge, Oswestry, Rev. Mr Lucas, Shrewsbury, Rev. Mr Lewis, Wrexham, Rev. Mr J. Boden, Hanley. Mr Francis was a member of Bwlchnewydd, Carmarthenshire. Accepted Oswestry College, August 15th, 1789. Mr Lucas, Shrewsbury stated he was very level headed and a good preacher when he recommended him to the Congergational Board, London. We have not found the deeds of the chapel, when it was built or who donated the land. It appears to have been built between 1798 and 1800.* They rented a meeting house, evident from £10 rent added to the costs of the new chapel. The cost was £344/10/6 1/2d, Mr Francis collected towards the cost, how much is not known, but he was paid £56/18/4 1/2d for his expenses with £5/9/8 being paid to locum preachers.
In 1799 4 members left to set up a Wesleyan cause and 1 to start a Baptist cause, but despite this the membership was 19 at the end of this year. Mr Francis left on the 27th of August, 1800. they were without a settled minister until April 18th, 1802 when Mr David Davies, Treffynon was called - this was signed by Mr Thomas Evans and 11 other members as well as four non-communicants. He was offered £20 a year, £3 more than his predecessor, as well as what he could claim from the funds in London. He appears to have stayed 3 to 4 years. He is thought to have been born in Penygraig, Carmarthenshire - educated Carmarthen College, held in Swansea, entering 1786 and was ordained in Kidwelly in 1790. He was there in association with Penygraig until 1795, when he moved to Treffynon, Flintshire ( he was never in Abergavenny as was wrongly stated in Llyfryddiaeth y Cymry). Soon after settling in Treffynnon he began to publish "Y Geirgrawn, or Trysorfa Gwybodaeth" ( Treasury of Knowledge), this defended liberal principles and his editor is said to have had to go into hiding at one time. He remained in Treffynon until1799 - 80, where he was before settling in Welshpool in 1802 is not known, nor where he went afterward - unless he died here. Mr George Ryan was ordained here next, he was an itinerant preacher in Shropshire, as minister for Minsterley and Welshpool. Evangelical Magazine, page 380, 1806 reports his ordination but the church records disagree on some details. He was ordained on May 28th, 1806, church records say 1812 with a Mr Harries here from 1808 to the end of 1811. It is likely that he was here some of the time in association with Minsterley, from 1812 until 1830 he was sole minister here. He was succeeded by Mr Thomas Morgan, now Hinckley, Leiscesteshire. Mr Morgan was originally a member of Ebenezer, Pontypool, educated in Newtown - called in July 1831, left in 1840 to England. Next was Mr C. Hudson, ordained 1840, left January 1844. May 1844, Mr H. Kerrison arrived - ordained September 11th, 1845, officiating were Dr. Raffles, Liverpool , Mr Pearce, Wrexham, Dr. Halley, Manchester, and others. The previous day the new chapel was opened, £41 was collected towards the cost - September 1849, Mr Kerrison gave up his ministry due to ill health, at the same meeting Mr J Davies, then Oswestry was called. Mr Davies was a popular preacher, he died February, 1851. Then a Mr T. Nash, London came on trial but agreement to call him was not reached. January 1853, Mr J. B. Fletcher, MA., son of Dr. Fletcher, London came but gave up in September. March, 1855, an united call went to Mr F. C. Dowthwaite, who began his ministry in May 1866, he gave up his ministry and on August 26th, 1866. Mr David Rowlands, BA., Llanbrynmair, was called and began his ministry on the first Sunday of November that year, he was successful in his time here and has now accepted a call from the English church in Carmarthen.
The cause here has been comparatively weak, despite strong support from individuals. Eleven ministers in the space of 78 years, as well as some on trial, was too frequent a change, either the choices were poor or the church was not united to cause this. Unfortunately all these faults applied at some point and in varying degrees.
The following have been of great service here over time - Mr Thomas Evans, Messrs John Evans, London, and Edward Evans, Worcester. March, 1868, Mrs Jones, daughter of Mr Thomas Evans, died aged 84, after 68 years of useful membership. In November 1869, Mr Parker, one of the deacons was chosen as mayor and as a principled Independent refused to go to the parish Church the following Sunday, attending his own chapel, much to the annoyance of the Vicar and churchgoers.
The only one raised to preach here was Mr A. Wright. He went to Hackney College in October, 1843 - there is no further history.
This Chapel was repaired and redecorated with a new schoolroom built recently. Mostly funded by Mr Evans, Worcester.
* Llythyr Mr R. Hughes, Cendl.
CONTINUED
(Gareth Hicks - 9 Jan 2011)